Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2016
Amser: 09.00 -
09.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3605
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Neil McEvoy AC Janet Finch-Saunders AC Gareth Bennett AC Mike Hedges AC (Cadeirydd) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jessica England (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 126KB) Gweld fel HTML (129KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd y dylid ei chau, o gofio bod yr ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd yn mynd i’r afael â’r materion y mae’n eu codi.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn i’r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau mewn ymateb i lythyr y Gweinidog. Bydd y Pwyllgor yn trafod y ddeiseb eto yn y cyfarfod nesaf.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O gofio bod y ddeiseb hon wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf dros bedair blynedd yn ôl a bod y camau nesaf yn ddibynnol ar benderfyniadau gweithredol y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y ddeiseb wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf dros dair blynedd yn ôl ac nid yw’n debygol y bydd y polisi’n newid yn y dyfodol agos, cytunodd y Pwyllgor y dylid ei chau.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r arfer o saethu gwyddau talcen-wen yng Nghymru ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i:
· ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ymchwil ar y cyd â Chymdeithas Cadwraeth y Môr a Phrifysgol Abertawe i ymchwilio i’r mater hwn a materion eraill a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd; ac i
· bwysleisio pwysigrwydd casglu’r wybodaeth berthnasol i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol i fynd i’r afael â’r broblem.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd y dylid gofyn i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig nodi’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Deisebau wrth iddo drafod ei flaenraglen waith.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a chytunodd i gau’r ddeiseb oherwydd bod Aelodau’n teimlo y byddai’r mater bellach yn cael ei ddwyn ymlaen orau ar lefel fwy lleol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu at Ganolfan Ymbelydredd, Cemegion a Pheryglon Amgylcheddol Iechyd Cyhoeddus Lloegr i ofyn pa gamau y maent wedi’u cymryd ar ôl cael gwybodaeth a anfonwyd atynt gan y Gweinidog ar gais y Pwyllgor blaenorol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, a hefyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, a chytunodd i anfon y wybodaeth sydd wedi dod i law hyd yn hyn at yr Archwilydd Cyffredinol a gofyn iddo am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ynghylch darparu bwyd yn ysbytai Cymru.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd a’r deisebydd, a chytunodd i wneud darn byr o waith ar y materion a godwyd ac i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebwr ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn nhymor yr hydref.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. O ystyried y safbwynt a nodwyd yn ymateb y Gweinidog a’r ffaith bod y ddeiseb wedi bod o dan ystyriaeth ers dros dair blynedd, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. O gofio bod y Gweinidog wedi nodi na fydd y terfyn cyflymder yn cael ei ostwng ar hyn o bryd, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a hefyd gan Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad Cam 4 a sut y bydd barn y deisebwyr yn cael ei hystyried.
Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a’r deisebwr. O ystyried yr ymateb cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet newydd a’r sicrwydd blaenorol a roddwyd o ran amddiffyn Derwen Brimmon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chytunwyd y dylid pwyso ar CBAC am ymateb i geisiadau blaenorol am wybodaeth. Wrth wneud hynny, roedd Aelodau hefyd yn dymuno mynegi eu siom ynghylch y diffyg ymateb gan CBAC i ohebiaeth flaenorol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Prif Weinidog, Comisiynydd y Gymraeg a chyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. O ystyried yr holl ymatebion a gafwyd, a’r argymhelliad yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd hefyd y dylid ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddynt ystyried y materion a godwyd wrth drafod y gyllideb nesaf.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd y Ganolfan Genedlaethol newydd ar gyfer Cymraeg i Oedolion a swyddogion y Llywodraeth wedi cwblhau’r gwaith o drafod materion ynghylch darpariaeth a ffioedd.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Llywydd blaenorol a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a chytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor a’i hystyried ymhellach pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno cynigion ar gyfer strwythur llywodraeth leol yn y dyfodol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Yng ngoleuni’r ymateb hwnnw ac, yn arbennig, y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn y maes hwn yn ddiweddar, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.